

Mae Axcis Education yn falch iawn o fod ar fframwaith Cyflenwi Masnachol Llywodraeth Cymru er mwyn darparu staff addysgu a chymorth dros dro mewn ysgolion ledled Cymru.
Hygrededd ac Ymddiriedaeth
Mae'r fframwaith yn gyfeiriadur y gall ysgolion sy’n chwilio am atebion staffio ymddiried ynddo, ac mae cael ein cynnwys arno yn dangos bod Axcis yn bodloni safonau llym Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys cydymffurfio â meini prawf sicrhau ansawdd, diogelu, a gwerth am arian. Mae bod ar y fframwaith yn rhoi sicrwydd i ysgolion bod Axcis yn bartner dibynadwy sydd ag enw da.
Cyd-fynd â Safonau Rheoleiddiol
Mae fframwaith Cyflenwi Masnachol Llywodraeth Cymru yn sicrhau y cedwir at safonau rheoleiddiol, gan gynnwys prisiau teg, arferion recriwtio moesegol, a gweithdrefnau diogelu cadarn. Drwy fod yn rhan o’r fframwaith, mae Axcis Education yn cyd-fynd â’r disgwyliadau hyn, gan ddangos ein hymrwymiad i safon a chydymffurfiaeth.
Cyfraniad at Flaenoriaethau Addysg Cymru
Mae bod yn rhan o’r fframwaith yn cefnogi amcanion ehangach y Llywodraeth, megis gwella safon addysg; mynd i’r afael â phrinder staff; a sicrhau mynediad cyfartal at staff addysgu a chymorth medrus ledled Cymru. Gall Axcis Education chwarae rhan allweddol wrth gyflawni'r nodau hyn.
Mae bod ar fframwaith Cyflenwi Masnachol Llywodraeth Cymru yn fwy na dim ond bathodyn o gymeradwyaeth ar gyfer Axcis – mae'n anghenraid strategol i'n helpu i gefnogi sector addysg Cymru, yn enwedig ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Os ydych chi’n chwilio am atebion staffio ar gyfer eich ysgol neu ddarpariaeth, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm yn ne Cymru:
Ffôn: 0292 160 2960
E-bost: southwales@axcis.co.uk
Axcis, any time, anywhere! Follow us on your preferred social media platform and keep up to date with our latest news, events and competitions.